Clecs y Tiwtoriaid
Rhian Lloyd
Llongyfarchiadau i Rhian Lloyd, Swyddog Datblygu yn y Ganolfan, ar ennill cymhwyster TAR ym Mhrifysgol Casnewydd. Dyma lun hyfryd ohoni’n graddio – diwrnod bendigedig ar ôl yr holl waith caled. Gwnaeth ei holl waith ymarfer dysgu mewn dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion.
Cyril Jones
Ym mis Rhagfyr ymddeolodd Cyril o’i swydd fel Swyddog Iaith o fewn Prifysgol Morgannwg. Colled i’r Brifysgol, ond byddwn ni yn y maes yn elwa gan y bydd ar gael i ddysgu rhagor o ddosbarthiadau. Y mae Cyril yn diwtor heb ei ail. Dyma’r englynion a gyflwynwyd iddo ar ei ymddeoliad. Lluniwyd yr englynion gan ei gyfaill, Gwyn Griffiths.
Didwrw, da, hyderus – un ocê,
Ta’cu Siôn ac Alys,
Gynt o glic John Roderick Rees
Yw ein Cyril cysurus.
O gilio heb ddim galar – dal y sêl,
Dal sownd o’r cyfarpar,
A dwylo pen y dalar
Fwyda nwyf dy awen wâr.
Cwrs Nadolig
Cafwyd Cwrs Nadolig deuddydd llwyddiannus, oedd yn cynnwys cyfle i brynu anrhegion Nadolig trwy gyfrwng y Gymraeg – llyfrau, cardiau a chrysau t a chwys. Mae dau o’n dysgwyr wedi sefydlu cwmni crysau t newydd o’r enw Dafad Dai. Cyfeiriad eu gwefan yw www.dafaddai.co.uk.